Sylfaenydd Ymddiriedolaeth y Plwyf yn mynychu Garddwest Frenhinol
Ddydd Mercher 18 Mai 2022, gwahoddwyd y Parch. Dean Aaron Roberts, Sylfaenydd a Chadeirydd Ymddiriedolaeth y Plwyf, i fynychu Garddwest ym Mhalas Buckingham gan Arglwydd Raglaw Gwent ar ran Ei Mawrhydi y Frenhines i gydnabod ei waith i sefydlu’r elusen.


